1. SAFLE yw y man lle mae pobl yn adeiladu anheddiad.
Mae’r rhan fwyaf o bentrefi Cymru yn hen.
Adeiladwyd hwy ar eu safleoedd am resymau oedd yn
bwysig gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Nid yw’r
rhesymau hynny yn bwysig erbyn heddiw. Yn aml,
cafodd y safle effaith ar ffurf y pentref.
Rhaid bod manteision i’r safle cyn ei ddewis.
2. Rhaid bod manteision i’r safle cyn ei ddewis. Mae wyth
mantais isod. Y mwyaf o fanteision oedd gan y safle,
yna’r mwyaf tebygol oedd anheddiad i dyfu.
3. Ymarfer
Mae’r tabl isod yn rhoi rhesymau pam y byddai angen y pethau hyn
arnoch. Cysylltwch y pethau uchod i’r rhesymau cywir yn y tabl.
Defnyddiwch y wybodaeth i lenwi’r ddau fwlch ar gyfer lluniau
gyda phethau a fyddai angen arnoch. Yn y golofn olaf, rhestrwch y
rhifau 1-8 yn ôl eu pwysigrwydd (1 ydy’r un pwysicaf)
i yfed ac i gadw’r cnydau a’r anifeiliaid yn fyw
i dyfu cnydau ac i adeiladu ffyrdd
i weld y gelynion yn dod
i ddefnyddio i adeiladu a gwneud tânau er
mwyn cadw’n dwym a choginio
i amddiffyn pobl ac anifeiliaid o’r oerfel
i wneud llestri a briciau i adeiladu
i rwystro cartrefi a chnydau rhag cael eu
dinistrio gan lifogydd
i deithio mewn cychod ac i wneud e’n anodd
i’r gelynion ymosod