2. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cynhyrchu data am blant mewn tlodi
materol ac aelwydydd incwm isel yn ôl ardal. Gwneir hyn ar sail cyn costau tai.
Maent hefyd yn cynhyrchu ffigurau ar bensiynwyr mewn tlodi materol yn ôl
ardal.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am dlodi materol yng Nghymru o Arolwg
Cenedlaethol Cymru.
Tlodi Materol
3. Canran y plant a oedd yn byw mewn amddifadedd materol ac aelwydydd
incwm isel (cyn costau tai), cyfartaledd dros dair blwyddyn ariannol
%
0
2
4
6
8
10
12
14
16
18
2011 i 2014 2012 i 2015 2013 i 2016 2014 i 2017 2015 i 2018
4. Roedd 12 y cant o blant sy'n byw yng Nghymru
mewn cartrefi incwm isel a thlodi materol
• Roedd 12 y cant o blant sy'n byw yng Nghymru mewn tlodi materol a chartrefi
incwm isel rhwng 2015-16 a 2017-18.
• Golyga hyn eu bod heb fynediad i nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau a bod
cyfanswm incwm y cartref yn is na 70 y cant o incwm aelwyd gyfartalog y DU – cyn
talu costau tai.
• Mae hyn i fyny o’r 10 y cant a adroddwyd y llynedd.
• Mae'r gyfradd hon bellach yn gyfartal â'r ffigurau cyfatebol a welir yn Lloegr. Y
ffigurau ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon yw 11 a 8 y cant yn ôl eu trefn.
• Yn y cyfnod mwyaf diweddar (2015-16 i 2017-18), roedd holl ranbarthau Lloegr ac
eithrio’r Dwyrain, Ddwyrain Canolbarth Lloegr, Allanol Llundain, De-ddwyrain a De-
orllewin gyda chanran uwch o blant mewn amddifadedd materol ac aelwydydd
incwm isel na Chymru.
5. Roedd 9 y cant o bensiynwyr sy'n byw yng Nghymru
mewn tlodi materol
• Mae hyn yn golygu bod 9 y cant o bensiynwyr sy’n byw yng Nghymru mewn
aelwyd heb fynediad i nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau. Mae hyn
yn yr un cyfradd a adroddwyd blwyddyn diwethaf.
• Mae’r gyfradd wedi sefyll ar 9 y cant ar gyfer y chwech or saith cyfnod rhwng
2009-10 i 2011-12 a 2015-16 i 2017-18.
• Yn yr Alban mae’r ffigur hwn yn 6 y cant, yr un peth a gofnodwyd y llynedd.
Yng Ngogledd Iwerddon mae'r ffigur yn 6 y cant, i lawr o’r 7 y cant a
gofnodwyd y llynedd tra bod y ffigur am Loegr wedi gostwng o 8 y cant a
gofnodwyd y llynedd i 7 y cant.