Underpinning innovation through geography 16062010
Wales Coast Path pow wow output final welsh
1. Sut gallwn ni gysylltu cymunedau ac
ymwelwyr ar hyd Llwybr Arfordir Cymru?
Crynodeb o’r problemau a ddatryswyd gan y Timau Pow
Wows yn Abertawe a Bangor, ynghyd â chwe chyfweliad ffôn.
7 Chwefror Abertawe ac 8 Chwefror Bangor
14. 1. Adnoddau i bawb
Problemau allweddol cysylltiedig â
darparu adnoddau addas ar hyd llwybr yr
arfordir sy’n cwrdd ag anghenion pawb.
15.
16. # 1. Cyfleusterau cyfleus
Sut gallwn ni ddarparu digon o luniaeth a thai bach
ar hyd y llwybr er mwyn sicrhau nad oes
cyfaddawdu o ran cyfforddusrwydd pobl?
Mae angen i bobl gynllunio’u teithiau yn ofalus, yn
enwedig os oes rhaid ystyried pobl eraill, er
enghraifft plant a phobl hŷn. Mae cynnig adnoddau
addas yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r profiad.
17. # 2. Picnics ym mhob tywydd
Sut gallwn ni ddarparu adnoddau picnic i bobl, heb
orfod poeni am y tywydd?
Pan nad oes adnoddau picnic ar gael: ar y gorau,
mae pobl un ai’n eistedd yn eu ceir neu’n ceisio
cysgodi o dan ymbarel; ar y gwaethaf, mae pobl yn
gadael.
18. # 3. Nid wyf yn gallu parcio
Sut gallwn ni wneud hi’n fwy cyfleus i bobl barcio?
Mae gallu parcio yn agos at lwybr yr arfordir yn
bwysig iawn i bobl wrth geisio sicrhau bod eu
hymweliad mor hawdd a hwylus â phosibl.
19. # 4. Punnoedd ar gyfer parcio
Sut gallwn ni ddarparu strategaeth cost parcio
cyson ar hyd Llwybr Arfordir Cymru?
Mae costau parcio’n amrywio o 50c i £3.50 yr awr.
Yn y llefydd drutaf, mae pobl yn tueddu parcio tu
allan i’r maes parcio er mwyn osgoi talu, ac mae
hynny’n gallu achosi tagfeydd.
20. # 5. Gweithio o 9 i 5
Sut gallwn ni unioni amser agor adnoddau gyda’r
tymhorau?
Mewn rhai ardaloedd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru
mae tai bach a chaffis yn cau gyda’r nos yn ystod yr
haf, er bod nifer o bobl yn parhau i fwynhau’r llwybr
gyda’r nos.
21. # 6. Profiad bratiog
Sut gallwn ni gyfuno’r holl brofiadau mae
cwsmeriaid yn eu cael ar hyd Llwybr Arfordir
Cymru?
Mae profiadau gorau’r cwsmeriaid yn deillio o bob
cyswllt maen nhw’n ei gael ar hyd y llwybr (y bobl
maen nhw’n cwrdd â nhw, gwybodaeth maen nhw’n
ei gael, offer maen nhw’n ei ddefnyddio) yn
cydweithio’n llyfn.
22. # 7. Llety cyraeddadwy
Sut gall cwsmeriaid ddod o hyd i lety addas mewn
ardaloedd lle mae’r dewis yn gyfyngedig neu lle
nad yw’r llety sydd ar gael yn cael ei hysbysebu?
Wales.gov.uk (http://bit.ly/ztoki6)
Bydd perchnogion gwestai a lleoliadau gwely a
brecwast yn colli allan ar incwm posibl, sef eu cyfran
nhw o’r 9.6 miliwn o ymwelwyr dros nos i Gymru, a
wariodd hyd at £1.8 biliwn yn 2010.
23. 2. Cyfleoedd i fusnesau
Problemau allweddol cysylltiedig â
dechrau, datblygu a chynnal busnesau ar
hyd Llwybr Arfordir Cymru, 365 diwrnod
y flwyddyn.
24.
25. # 1. Beth yw’r manteision i mi?
Sut gallwn ni gyflwyno achos cryf i fusnesau o
Gymru i fuddsoddi yn eu hunain er mwyn cymryd
mantais o lwybr yr arfordir?
Er mwyn i unrhyw fusnes un ai ddechrau a/neu
dyfu, mae angen tystiolaeth gref o enillion ar
fuddsoddiad o lwybr yr arfordir.
26. # 2. Canfod cyfleoedd ar gyfer tyfiant
Sut gallwn ni sbarduno tyfiant ymysg busnesau lleol
o ystyried y problemau go iawn sydd angen eu
datrys?
Ym mhedwaredd chwarter 2011, roedd y sector
teithio a thwristiaeth yng Nghymru’n wynebu twf o
56% o ran problemau ariannol penodol o gymharu â
pedwaredd chwarter 2004.
Begbies Traynor’s Red Flag Alert (http://bit.ly/z744TE)
27. # 3. Pa botensial?
Sut gall busnesau ddeall y nifer o ymwelwyr posibl
yn well?
Yn 2010, denodd Cymru 890,000 o ymwelwyr
rhyngwladol a wariodd £333 miliwn, ond un ai nid
yw’r wybodaeth hon wedi’i deall gan nifer o bobl
neu nid yw wedi cael ei rhoi mewn cyd-destun i
fusnesau lleol allu cymryd mantais o’r sefyllfa.
Twristiaeth yng Nghymru, Llywodraeth Cymru (http://bit.ly/ztoki6)
28. # 4. Mae’r tymor yn rhy fyr
Sut gall Llwybr Arfordir Cymru ddatblygu i fod yn
gyrchfan atyniadol tu allan i’r prif dymor?
Ar hyn o bryd, mae’r tymor twristiaeth yn rhedeg
rhwng mis Mawrth a mis Hydref gydag anterth o dri
mis yn y canol. Mae hynny’n cynnig y cyfle i ased o
ansawdd yng Nghymru elwa’n llawn trwy gydol y
flwyddyn.
29. # 5. Cynnal busnes nad yw’n cyrraedd
anterth
Sut gallwn ni greu, datblygu a chynnal busnesau
sy’n gwneud elw trwy gydol y flwyddyn?
Ar hyn o bryd, nid yw nifer o’r busnesau cyfredol yn
gallu gwneud bywoliaeth gydol y flwyddyn trwy
ddibynnu’n unig ar ymwelwyr i’r llwybr.
30. # 6. Gweithgareddau i bob tymor
Sut gallwn ni ddatblygu gweithgareddau a rhoi
rheswm i bobl defnyddio’r llwybr tu allan i’r tymor
arferol?
Mae angen amrywiaeth o resymau cymhellol i
ymweld â’r llwybr, beth bynnag yw’r tymor.
33. # 1. Llwybr i dwristiaid yn unig yw e.
Sut gallwn ni wneud mwy ar ran cymunedau lleol
er mwyn iddynt gefnogi a defnyddio’r llwybr?
Er mwyn i Lwybr Arfordir Cymru fod yn gynaliadwy
trwy gydol y flwyddyn, mae angen i gymunedau
lleol deimlo cysylltiad ag ef.
34. # 2. Llwybr i oedolion yn unig yw e.
Sut gallwn ni ymrwymo a grymuso plant i ddefnyddio, dangos
mwy o ddiddordeb a bod yn falch o Lwybr Arfordir Cymru?
Mae tystiolaeth yn dangos mai anogaeth yn ystod blynyddoedd
cynnar plentyn yw’r ffordd fwyaf effeithiol o wella ei gyfleoedd,
torri’r cylchoedd sy’n gallu bodoli ym mywydau rhai o’r plant
mwyaf difreintiedig ac agored i niwed, a rhoi cyfle iddynt dyfu,
llwyddo a chyflawni.
Cynllun Gweithredu Ymrwymo Ieuenctid a Chyflogaeth 2011 – 2015,
Llywodraeth Cymru (http://bit.ly/ADgvtc)
35. # 3. Mae cerdded yn ddiflas…
Sut gallwn annog pobl leol a thwristiaid sydd heb
unrhyw ddiddordeb i gerdded y llwybr?
Mae rhai pobl o’r farn bod cerdded yn ddiflas ac
mae gwell ganddynt wneud rhywbeth arall gyda’u
hamser.
36. # 4. Bom-amser gordewdra
Sut gallwn ddenu mwy o bobl i gymryd sylw o’u
hiechyd trwy gerdded?
Mae 57% o oedolion Cymru, 22% o fechgyn 13 oed
ac 16% o ferched yn cael eu cyfrif un ai’n rhy drwm
neu’n ordew. Erbyn 2019, bydd 85% o oedolion a
phlant Cymru yn ordew.
Wales Online (http://bit.ly/2xyKyj)
37. # 5. Neges fawr mewn pwll dŵr bach
Sut gall cyfathrebu gael effaith mor fawr ar lefel
leol, fel digwyddodd yn llwyddiannus ar lefel
ryngwladol?
Lonely Planet (http://bit.ly/tKiNBo)
Yn ôl rhifyn goreuon 2012 cylchgrawn Lonely Planet,
Llwybr Arfordir Cymru yw rhanbarth gorau’r blaned.
Beth yw’r neges i bobl leol sy’n codi o’r ffaith hon?
40. # 1. Dim signal
Sut gallwn ni sicrhau bod defnyddwyr apps a’r
rhyngrwyd yn gallu cael mynediad band llydan, wi-
fi a 3G 100% ym mhob lleoliad ar hyd y llwybr?
Mobithinking.com (http://bit.ly/a2f9uO)
Mae pobl yn dibynnu fwyfwy ar eu ffonau symudol o
ran cael mynediad at wybodaeth. Bellach, mae yna
1.2 biliwn o ddefnyddwyr rhyngrwyd symudol ac
mae un o bob archwiliad gwe yn cael ei wneud o
ffôn symudol.
41. # 2. Oes yna app ar gyfer hynny?
Sut gall apps wella’r profiad cysylltiedig â Llwybr
Arfordir Cymru?
Mobithinking.com (http://bit.ly/a2f9uO)
I nifer o bobl, mae apps yn rhan allweddol o fywyd.
Mae dros 300,000 o apps ar gyfer ffonau symudol
wedi’u datblygu yn ystod y dair blynedd diwethaf.
Mae cwmni Apple yn unig wedi gweld yn agos at 25
biliwn o’i apps yn cael eu lawrlwytho.
42. # 3. Technolegau yn cydweithio
Sut gallwn ni sicrhau bod amrywiaeth o
dechnolegau sydd eisoes yn bodoli a thechnolegau
newydd yn cydweithio’n ddi-dor ar hyd y llwybr?
Mae defnyddwyr y llwybr eisiau cael profiad cyfun a
bydd hynny’n cael ei ddifetha os nad oes modd
iddynt gael mynediad at wahanol dechnolegau ar
hyd y llwybr.
43. # 4. Dim syrpreisys annisgwyl
Sut gallwn ni ddarparu gwybodaeth hygyrch i helpu
pobl i drefnu eu teithiau cerdded yn seiliedig ar eu
hanghenion, medrau a disgwyliadau?
Mae pobl yn hoffi trefnu gyda sicrwydd o flaen llaw
ac felly mae angen cwrdd â’u hanghenion penodol.
44. # 5. Data lleol cywir
Sut gallwn ni ymrwymo pobl leol i helpu i
ddiweddaru a gwella gwybodaeth cysylltiedig â
Llwybr Arfordir Cymru?
Mae pobl leol yn gwybod ffeithiau penodol am yr
ardal maen nhw’n byw ynddi (e.e. hanes lleol,
atyniadau, adnoddau) – ffeithiau nad ydynt yn
gyffredin i bawb neu sydd efallai yn anghywir os
ydynt ar gronfa ddata.
45. # 6. Gwybodaeth i bawb
Sut gallwn ni arddangos a rhannu gwybodaeth mewn ffordd
effeithiol gydag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd gydag
anghenion amrywiol gan ddefnyddio hysbysfyrddau cyfyng
o ran eu maint?
Wales.gov.uk (http://bit.ly/ztoki6)
Daeth 890,000 o ymwelwyr rhyngwladol i Gymru yn 2010,
gan wario £333 miliwn. Mae galw am wybodaeth mewn
ieithoedd gwahanol, ond does dim digon o le ar yr arwyddion
i gynnwys gwybodaeth i gwrdd ag anghenion pawb.
46. # 7. Prinder gwybodaeth
Sut gallwn ni sicrhau bod pobl yn cael yr holl
wybodaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn
gwneud penderfyniadau fydd o bosibl yn arwain
atynt yn dewis ymweld â llwybr yr arfordir?
Gall bwlch mewn gwybodaeth arwain at ymwelwyr
yn dewis un ardal dros ardal arall, ac arwain at
effaith economaidd negyddol.
47. # 8. O’r ffordd i’r llwybr
Sut gallwn ni sicrhau bod arwyddion o’r ffyrdd i’r
llwybr yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol
ynghylch mynediad?
Mae pobl yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau
teithio i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru ac mae
angen cael arwyddion eglur sy’n hysbysu ymwelwyr
os yw’r rhan benodol hon o’r llwybr yn addas ar eu
cyfer ai peidio.
48. # 9. Arwyddion 100%
Sut gallwn ni sicrhau bod rhwydwaith arwyddion
100% ar hyd 870 milltir Llwybr Arfordir Cymru?
Os yw’r arwyddion yn anghyson ac o ansawdd
gwael, mae pobl yn llai tebygol o ddarganfod
ardaloedd newydd i’w harchwilio, sy’n effeithio ar
fusnesau lleol yn ogystal â llwyddiant cyffredinol y
llwybr.
51. # 1. Ansawdd y llwybrau mynediad
Sut gallwn ni sicrhau bod rhwydwaith o ffyrdd
mynediad a meysydd parcio o ansawdd uchel i’r
rheiny sy’n teithio i lwybr yr arfordir mewn car?
Os nad oes modd i bobl gyrraedd llwybr yr arfordir
yn hawdd, ni fyddant yn ei ddefnyddio.
52. # 2. Manteisio ar ein llwyddiant
Sut gallwn ni sicrhau dyfodol Llwybr Arfordir Cymru
er mwyn sicrhau bod rhinwedd y llwybr yn cynyddu
yn unol â llwyddiant y llwybr, heb danseilio’r
profiad i ymwelwyr?
Bydd llwyddiant yn arwain at ddenu mwy o
ymwelwyr, a fydd yn ei dro yn golygu: llwybrau
prysurach, mwy o ysbwriel, mwy o faw ci, mwy o
ddamweiniau, mwy o straen ar adnoddau lleol megis
tai bach a chaffis, ac erydu’r llwybr yn y pen draw.
53. # 3. Allan o gyrraedd
Sut gallwn ni ddarparu system trafnidiaeth
gyhoeddus gyfun ledled Llwybr Arfordir Cymru?
Nid oes gan bawb fynediad at gar, felly bydd rhaid
iddynt ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i ymweld
â lleoliadau ar hyd y llwybr.
54. # 4. Costau cyson ac isel
Sut gallwn ni ddarparu trafnidiaeth a llety
fforddiadwy i gwrdd ag anghenion ariannol pawb?
Bydd costau yn rhwystro pobl rhag ynmweld â llwybr
yr arfordir os ydynt yn cael eu hystyried yn rhy
ddrud.
55. # 5. Cerddwyr a beicwyr
Sut gall cerddwyr a beicwyr ddefnyddio’r llwybr
heb lesteirio’u gilydd?
Gall beicwyr gael effaith negyddol ar brofiadau
cerddwyr, fel arall bydd beicwyr yn chwilio am
lwybrau gwahanol os yw llwybr yr arfordir yn orlawn.
56. # 6. Celfi ar hyd y llwybr
Sut mae modd cynnal a chadw’r celfi ar hyd y llwybr, er
enghraifft meinciau a mynedfeydd?
Ramblers Cymru (http://bit.ly/y9eT5s)
Gall celfi pydredig neu ansafonol achosi damweiniau ac
effeithio ar iechyd a diogelwch defnyddwyr. Mae
enghreifftiau sydd wedi’u cofnodi yn cynnwys camfeydd a
chlwydi colledig neu wedi’u torri, pontydd wedi’u difrodi ac
arwyddion colledig neu wedi’u torri.
57. # 7. Mynediad perthnasol
Sut gall mynedfeydd perthnasol i’r llwybr fod yn
fwy hygyrch i bobl sydd ag anghenion mynediad
arbennig?
Llywodraeth Cymru (http://bit.ly/xhsiQy)
Bydd “rhai rhannau o’r llwybr yn addas i bobl ag
anableddau, teuluoedd gyda phramiau, marchogion
ceffylau a beicwyr”, ond mae angen i bobl wybod
ble.
58. # 8. Yn addas i bawb?
Sut gall llwybr yr arfordir wasanaethu amrywiaeth
o anghenion a gofynion defnyddwyr: ydyn ni’n
gwybod beth ydyn nhw?
Heb ddealltwriaeth eglur o bawb fydd eisiau
defnyddio’r llwybr, mae’n bosibl datblygu atebion na
fydd yn cwrdd ag anghenion y defnyddwyr.
59. 6. Ariannu a chreu polisïau
Problemau allweddol cysylltiedig â chreu
polisïau ac ariannu Llwybr Arfordir
Cymru
60.
61. # 1. Bom-amser ariannu
Sut gallwn ddatblygu a magu partneriaethau i ddod
o hyd a sicrhau cymorth ariannol ar gyfer
cynhaliaeth a datblygiad hirdymor y llwybr?
Llywodraeth Cymru (http://bit.ly/yosGgk)
Ar ôl i’r £3.9 miliwn gael ei wario i gwblhau Llwybr
Arfordir Cymru yn 2012, rydym yn disgwyl gweld
100,000 o ymwelwyr/defnyddwyr pellach a fydd yn
arwain at angen parhaus am gymorth ariannol ar
gyfer gwaith cynnal a chadw.
62. # 2. Newid safbwyntiau’r gwrthwynebwyr
Sut gallwn newid safbwyntiau’r bobl sy’n
gwrthwynebu’r llwybr?
Arfordir Sir Benfro (http://bit.ly/yPP3VM)
Mae’r gofynion cyllido’n gostwng os yw cymunedau
lleol yn chwarae rôl gyfranogol o ran gwaith cynnal a
chadw y llwybr a’r ardal leol.
63. # 3. Polisïau gwrthgyferbyniol
Sut gall un awdurdod lleol ar bymtheg a dau barc
cenedlaethol gyd-drefnu a chyflawni amcanion
polisïau gwahanol?
Gall blaenoriaethau gwahanol (e.g. llifogydd
arfordiriol a materion gwledig a diwydiannol) arwain
at anghysondebau o ran cynlluniau ariannu.
64. # 4. Buddsoddi amser ac arian
Sut gall buddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw’r llwybr
arwain at greu uchafswm refeniw?
Ramblers (http://bit.ly/AB64Ph)
Yn ne-orllewin Cymru mae Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir
Benfro yn creu £52 am bod £1 sy’n cael ei gwario ar waith
cynnal a chadw. Mae angen model cynaliadwy hirdymor ar
Lwybr Arfordir Cymru er mwyn sicrhau polisïau a datblygiad
cadarnhaol.
67. # 1. Teithiau cerdded wedi’u teilwra’n arbennig
Sut gall pobl drefnu teithiau cerdded yn seiliedig ar
allu, anawsterau, hyd ac amser?
Gall hwyluso’r broses drefnu a gwybod faint o amser
bydd y daith gerdded yn cymryd, ynghyd â rhyw
syniad o ba mor anodd yw’r daith, gynyddu defnydd
dyddiol ac ail-ymweliadau ymysg cerddwyr.
68. # 2. Cerdded y ci
Sut gall cerddwyr cŵn a’u teuluoedd wneud y
defnydd gorau o’r llwybr o gofio bod cŵn yn cael
eu gwahardd o’r traethau rhwng mis Mai a mis
Medi?
BBC News (http://bbc.in/zfUduA)
Gall dieithrio pobl leol ac ymwelwyr gael effaith
negyddol ar yr economi e.e. “ni fydda i’n mynd ar
wyliau i Gymru eto oherwydd bod cŵn yn cael eu
gwahardd o’r traethau”.
69. # 3. Ymwelwyr newydd i lwybr yr arfordir
Sut gall cerddwyr newydd fod yn hyderus eu bod
yn meddu ar yr holl wybodaeth ddaearyddol sydd
ei hangen arnynt i gwblhau’r daith gerdded maen
nhw wedi’i dewis?
Bydd sicrhau mai Llwybr Arfordir Cymru yw prif
ddewis y rheiny sy’n mynd ar wyliau cerdded neu
daith diwrnod am y tro cyntaf yn canfod marchnad
newydd ac yn arwain at fusnes ailadroddol.
70. 8. Marchnata, cyfathrebu a brandio
Problemau allweddol cysylltiedig â
chyfathrebu’r neges gywir trwy’r sianeli
cywir
71.
72. # 1. Nid llwybr yn unig
Sut mae’r llwybr yn hwyluso gweithgareddau eraill i
grwpiau demograffig gwahanol, er enghraifft
ffotograffiaeth, ysgrifennu, chwaraeon dŵr a
gwylio adar?
Nid cerdded yw prif ddiddordeb pob un sy’n bwriadu
ymweld â’r llwybr, ac mae modd cynyddu nifer yr
ymwelwyr trwy sicrhau bod croeso i grwpiau
demograffig gwahanol.
Pecyn Cyfryngau Llwybr Arfordir Cymru (http://bit.ly/wuAENq)
73. # 2. Adrodd Straeon
Sut gall straeon cysylltiedig â llwybr yr arfordir gael
eu hadrodd a’u hailadrodd mewn ffordd ystyrlon?
Walking Stories (http://bit.ly/x1Troj)
Mae straeon da yn gallu ysbrydoli pobl. Mae yna nifer
o straeon i’w hadrodd, yn amrywio o straeon
cysylltiedig â’r llwybr ei hun i chwedlau o ardaloedd
cyfagos.
74. # 3. Perchnogaeth
Sut gall pob uno Gymru fod yn rhanddeiliad o lwybr
yr arfordir?
Os caiff y llwybr ei ystyried fel “ein llwybr, llwybr
Cymru a llwybr y gymuned”, gall hynny arwain at y
llwybr yn cael ei ystyried yn yr un ffordd â Wal
Hadrian neu Wal Fawr Tsieina.
75. # 4. Beth yw llwybr yr arfordir?
Sut gall poblogaeth Cymru ddarganfod llwybr yr
arfordir?
Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu nad yw
rhan helaeth o boblogaeth Cymru yn ymwybodol o
lwybr yr arfordir.
76. # 5. Hyrwyddo’r llwybr
Sut mae modd sicrhau addewidion marchnata a
hyrwyddo ar ôl i bobl brofi llwybr yr arfodir eu
hunain?
Newyddion y BBC (http://bbc.in/vPs38D)
Os yw profiad ymwelwyr o lwybr yr arfordir yn
wahanol i’r ymgyrch farchnata, mae’n bosibl torri
addewid y brand e.e. mae’n bosibl y bydd cymunedau
o deithwyr sy’n gwrthwynebu’r llwybr yn achosi
bylchau yn y gylchdaith gyflawn o amgylch yr arfordir.
77. # 6. Cyfuno i greu profiad cynhwysfawr
Sut mae modd sicrhau cysondeb o ran ansawdd
pob rhan o’r llwybr, a chynnig pwynt gwerthu
unigryw i ddenu ymwelwyr?
Bydd nodweddion a phwyntiau gwerthu unigryw yn
cyfuno i greu profiad cynhwysfawr. Nododd
cylchgrawn Lonely Planet y bywyd gwyllt, mannau
syrffio ardderchog, cestyll a lleoliadau bythgofiadwy
megis Bae Barafundle a Thyddewi.
78. # 7. Cylchdeithiau diddorol
Sut mae modd cynnwys y cylchdeithiau
cerdded/beicio sy’n arwain at lefydd o ddiddordeb
oddi ar y llwybr?
Newyddion y BBC (http://bbc.in/9V6kBD)
Mae’r cylchdeithiau yn ychwanegu rhywbeth
ychwanegol at brofiad Llwybr Arfordir Cymru, gan
gynnig cyfle i bobl ymweld â mannau o ddiddordeb
eithriadol, er enghraifft Caer Mynydd Tre’r Ceiri.
79. # 8. Mynedfeydd anhysbys
Sut mae modd gwneud mynedfeydd anhysbys mae
pobl leol yn ymwybodol ohonynt yn fwy amlwg?
Llwybr Arfordir Ceredigion (http://bit.ly/xntP5E)
Mewn mannau penodol mae yna rai lleoliadau
anghysbell gyda mynedfeydd sy’n anodd dod o hyd
iddynt ond sy’n werth eu gweld i ymwelwyr.
80. 9. Daearyddiaeth a’r Amgylchedd
Problemau allweddol cysylltiedig â
daearyddiaeth, yr hinsawdd a’r
amgylchedd leol
81.
82. # 1. Glaw neu hindda
Sut gallwn gymryd mantais o’r fath ddywediadau â
“does dim y fath beth â thywydd gwael, dim ond y
dillad anghywir” er mwyn sicrhau bod y tywydd yn
ased i lwybr yr arfordir?
Hinsawdd Cymru (http://bit.ly/kQ1ZIS)
Gyda gwell gwybodaeth am y tywydd ar gael i bawb,
mae’r posibilrwydd o dywydd gwael yn fwy o ataliad
na’r tywydd gwael ei hun.
83. # 2. Darnau diflas
Sut gallwn hyrwyddo mannau llai hygyrch a deniadol
llwybr yr arfordir, er enghraifft ardaloedd
diwydiannol, mewn ffordd gadarnhaol?
Nid yw pob rhan o llwybr yr arfordir yn ddeniadol ac
felly mae’n bwysig ein bod yn rheoli disgwyliadau yn
effeithiol er mwyn osgoi profiadau negyddol ymysg
ymwelwyr.
84. # 3. Gwastraff
Sut gallwn reoli gwastraff, sbwriel a baw cŵn wrth i
nifer y defnyddwyr gynyddu?
Cyngor Gwynedd(http://bit.ly/opMudA)
Bydd llwybr brwnt yn arwain at brofiadau gwael.
Bydd annog cerdded cyfrifol ar hyd y llwybr yn lleihau
gwastraff, sbwriel a baw cŵn.
85. # 4. Llwybr traed cyson
Sut gall llwybr yr arfordir gynnig profiad cerdded
cyson i ddefnyddwyr?
Mae’n bosibl y bydd llwybr troed anghyson yn atal
defnyddwyr os yw’r llwybr yn newid o fod yn llwybr o
ansawdd uchel i lwybr brwnt sy’n anodd cerdded
arno.