Mae person mewn tlodi incwm cymharol pan ei bod yn byw mewn cartref lle’r oedd cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60 y cant o incwm aelwyd gyfartalog y DU (fel y rhoddir gan y canolrif).
2. Mae ethnigrwydd heb fod yn wyn yn gysylltiedig â
thebygolrwydd uwch o dlodi incwm cymharol
• Yn y cyfnod diweddaraf (2014-15 i 2018-19, cyfartaledd 5 mlynedd
ariannol), yr oedd pobl a oedd yn byw mewn aelwydydd lle’r oedd y pen
teulu o grŵp ethnig heb fod yn wyn yn fwy tebygol o fod mewn tlodi
incwm cymharol o’i gymharu â’r rhai lle yr oedd y pen teulu o grŵp
ethnig gwyn.
• Roedd tebygolrwydd o 25 y cant bod pobl o grŵp ethnig heb fod yn
wyn yn byw mewn tlodi incwm cymharol o'i gymharu â 23 y cant o
debygrwydd i'r rheiny o grŵp ethnig gwyn yn 2014-15 i 2018-19.
• Fodd bynnag, oherwydd bod gan y mwyafrif helaeth o aelwydydd yng
Nghymru ben teulu sydd o grŵp ethnig gwyn, roedd y rhan fwyaf o bobl
(98 y cant) a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn dod o
aelwydydd o’r fath.
Nid oeddem yn gallu cynhyrchu ffigurau cadarn ar gyfer plant neu bensiynwyr gan grŵp ethnig o bennaeth y
cartref oherwydd meintiau sampl isel. Gweler y tablau HBAI a gynhyrchwyd gan yr Adran Gwaith a
Phensiynau ar gyfer dadansoddiadau UK yn ôl grŵp ethnig.
3. Mae byw gyda pherson ag anabledd yn gwneud tlodi
incwm cymharol yn fwy tebygol ar gyfer plant a
phobl o oedran gweithio
• Yn data yr arolwg, caiff pobl anabl eu dehongli fel pobl sy’n adrodd unrhyw
gyflwr corfforol neu feddyliol neu salwch y disgwylir iddo bara am 12 mis neu
fwy, ac sy’n cyfyngu ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd, boed
ychydig neu lawer iawn. Mae hyn yn unol â diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb.
• Yn y cyfnod diweddaraf (2016-17 i 2018-19), yr oedd 37 y cant o blant a oedd
yn byw mewn aelwyd lle yr oedd rhywun ag anabledd mewn tlodi incwm
cymharol o’i gymharu â 24 y cant mewn aelwydydd lle nad oedd unrhyw un yn
anabl.
• Yr oedd 31 y cant o oedolion o oedran gweithio a oedd yn byw mewn aelwyd
lle yr oedd rhywun ag anabledd mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 18 y
cant o’r rhai a oedd yn byw mewn aelwyd lle nad oedd neb yn anabl.