2. Tlodi parhaus (ystadegau arbrofol)
• Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn diffinio unigolyn i fod mewn tlodi
parhaus os yw mewn tlodi incwm cymharol am o leiaf 3 o 4 blynedd olynol.
• Ar ôl talu costau tai, roedd gan unigolyn yng Nghymru risg 13 y cant o fod
mewn tlodi parhaus rhwng 2014 a 2018
• Roedd y siawns o fod mewn tlodi parhaus hefyd yn 13 y cant yn Lloegr a'r
Alban. Yng Ngogledd Iwerddon y siawns o fod mewn tlodi parhaus oedd 11
y cant.
3. Plant a phensiynwyr mewn tlodi parhaus
(ystadegau arbrofol)
Plant
• Roedd gan blant yng Nghymru tebygrwydd o 19 y cant o fod mewn tlodi
parhaus rhwng 2014 a 2018 (ar ôl talu costau tai). Mae'r ffigur hwn wedi
gostwng o 21 y cant a welwyd yn y pedwar cyfnod amser blaenorol.
• Roedd y ffigur ar gyfer Cymru yn is nag ar gyfer Lloegr (20 y cant), ond yn
uwch nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, y ddau gyda ffigur o 17 y cant.
Pensiynwyr
• Mae pensiynwyr yng Nghymru rhwng 2014 a 2018 â siawns o 11 y cant
o fod mewn tlodi parhaus (ar ôl talu costau tai).
• Mae hyn yn is na'r siawns yn yr Alban (12 y cant), yr un siawns a Lloegr (11
y cant) ac yn uwch na’r siawns yng Ngogledd Iwerddon (5 y cant).