Ystyriaethau gramadegol wrth lunio Geiriadur yr Academi
Newid ac amrywiaeth mewn Cymraeg cyfoes
1. Newid ac amrywiaeth mewn Cymraeg cyfoes
David Willis
dwew2@cam.ac.uk
Prifysgol Caergrawnt
http://people.pwf.cam.ac.uk/dwew2
Cylch Gramadeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Bangor, 24 Ebrill 2013
2. 1. Atlas Cystrawen Tafodieithoedd y Gymraeg: Cefndir
• pennu dosbarthiad amrywiadau cystrawennol y Gymraeg drwy
ddefnyddio methodoleg systematig
• pennu patrymau newid drwy astudio amrywiaeth yn ôl oedran
• archwilio effeithiau adfywiad y Gymraeg ar gystrawen yr iaith
• darparu deunydd ar gyfer dadansoddiadau pellach o gystrawen y
Gymraeg
• darparu storfa o ddeunydd fydd ar gael i ymchwilwyr, y cyhoedd a
phawb sydd â diddordeb mewn unrhyw agwedd ar amrywiaeth yn yr
iaith Gymraeg fel y’i siaredir heddiw
• cyfrannu at ymchwil ar brosesau newid ieithyddol yn gyffredinol
2
3. 1. Atlas Cystrawen Tafodieithoedd y Gymraeg: Cefndir
3
Number of Welsh speakers, 1991
(Source: Aitchison and H. Carter, A Geography of the Welsh Language 1969–1991, 1994.)
From: Post-War Wales
Dosbarthiad siaradwyr Cymraeg
(Cyfrifiad 1991)
Dosbarthiad daearyddol cyfranwyr
presennol (yn ôl lleoliad magu)
4. 1. Cefndir: Atlasau blaenorol
• Linguistic Geography of Wales (gol. Alan Thomas, 1973) (180 o
leoliadau, 750 o gwestiynau, drwy’r post, disgrifiadau yn Gymraeg a
throsiadau Saesneg) yn canolbwyntio ar amrywiaeth mewn geirfa
• 5 cwestiwn ar gystrawen:
‘these books’ (y llyfrau rheini etc.)
‘to go with him’ (efo/gyda)
‘Is John in?’ (ydi, yw, odi)
‘He is not here’ (Tydi o ddim/Dyw e ddim/S(a)no fe)
‘He is the one I want to see’ (fo/fe)
4
5. 1. Cefndir: Atlasau blaenorol
• Welsh Dialect Survey (gol. Alan Thomas, 2000) (gwaith maes 1991–5):
117 o leoliadau, 726 o gwestiynau, siaradwyr ‘o’r genhedlaeth hŷn’, yn
canolbwyntio ar sain (seineg/ffonoleg)
• mwy o gwestiynau o ddiddordeb i ni:
afon ddofn/ddwfn ‘deep river’ ayyb
bobl ifainc/ifanc ‘young people’ ayyb
cyn ddued/mor ddu ‘as black’
paid â fy mhoeni/poeni (f)i ‘don’t bother me’
treigladau (ar ôl yn; treiglad llaes ei thad ‘her father’ ayyb)
rhagenwau (fe/fo ‘he, him’, ti/chdi/thdi ‘you (sing.)’)
geirynnau ffocws (taw/mai/na)
5
7. 2. Methodoleg: Cyfranwyr a lleoliadau
• gwaith maes gyda tua 170 o siaradwyr yn ardaloedd Gwynedd, Conwy,
Caerdydd, Cwm Tawe a Chwm Nedd
• derbynnir pob siaradwr ddechreuodd gaffael iaith yn 5 mlwydd oed
neu’n iau
• yn cynnwys siaradwyr â’r Saesneg neu iaith gymysg fel iaith yr aelwyd
yn ystod plentyndod
• siaradwyr yn amrywio yn ôl lleoliad magu, oedran a iaith yr aelwyd yn
ystod plentyndod
• cesglir gwybodaeth hefyd ar: ysgol, oedran pan glywodd y Gymraeg
gyntaf, amlder defnydd o’r iaith, rhyw, gwaith/galwedigaeth, lefel
addysg, a’r llefydd lle mae’r siaradwr wedi byw
7
8. 2. Methodoleg: Y cyfweliad
• cwestiynau cyffredinol am gefndir ieithyddol a defnydd o’r Gymraeg
• holiadur 60-eitem: 2 frawddeg ymarfer (fersiynau i’r gogledd ac i’r de),
34 cwesiwn a ddefnyddir ymhobman, 24 yn y gogledd neu’r de yn unig
• y gweithiwr maes yn darllen un frawddeg gyd-destun ac ail frawddeg
sy’n cynnwys rhyw amrywiolyn (neu amrywiolion) dan sylw
• gofynnir i’r siaradwr ailadrodd y frawddeg mewn ffordd sy’n swnio’n
naturiol iddyn nhw mewn iaith pob dydd
• trefn y brawddegau’n amrywio o un siaradwr i’r llall
• caiff siaradwyr ofyn i’r gweithiwr maes ailadrodd y frawddeg(au) neu
gyfieithu i’r Saesneg os oes angen
8
9. 2. Methodoleg
Brysia ychydig.
‘Hurry up a bit.’
Ni ’n aros amdana chdi o hyd.
we PROG wait.INF for.2SG you still
‘We’re still waiting for you.’ [cwistiwn13]
gogledd (conwy_1)
gogledd (gwynedd_11)
de (nedd_4)
9
’Dan ni’n aros amdanat ti
’Dan ni’n disgwyl amdana chdi
Quick, ni’n aros amdanat ti.
10. 2. Methodoleg
• amrywiolion dan sylw yn cael eu cyflwyno unwaith ym mhob ffurf bosib
Ond hwyrach does gynno chdi mo’r amser i joio fe. gynno chdi
Dwi’n leicio’r het newydd sy gen ti ’na. gen ti
Ife honna yw’r un fwya sy gynno ti? gynno ti
Be sy gen chdi i ddweud amdan y cyfarfod? gen chdi
• rhai o’r brawddegau (hwyrach) yn annerbyniol gan bawb (*gen chdi)
• brawddegau yn cymysgu pethau o wahanol dafodieithoedd i orfodi pobl
i ‘gywiro’ nhw (ife … gynno ti)
10
11. 2. Methodoleg
• siaradwyr yn rhydd i aralleirio (sy’n lleihau ar faint y data):
(qu38) Q: Roedd gen i ofn poeni ti.
(qu38) A: O’n i ddim moyn becso ti. (nedd_04)
• aralleirio fel arwydd bod y siaradwr yn gwrthod y gystrawen
(qu52) Q: Mae dal le yn y bws.
(qu52) A: Mae dal le yn y bws. (gwynedd_14)
(qu52) A: Mae digon o le ar ôl yn y bỳs. (penfro_01)
• weithiau mae aralleirio yn ychwanegu data:
(qu12) Q: Pryd ti’n feddwl ddaw hi?
(qu12) A: ’S gen ti syniad pryd neith hi ddod? (conwy_08)
11
12. 3. ʼCau fel berf negyddol foddol
Mewn rhannau o’r gogledd defyddir (na)cau i gyfleu’r syniad bod gan y
goddrych ryw rinwedd (boed hynny’n barhaol neu dros dro) sy’n atal
gweithrediad y brif ferf, yn hytrach na phenderfyniad gan oddryrch
bywiol, ymwybodol (‘gwrthod’):
Mae’r drws (yn) cau agor.
‘Wnaiff y drws ddim agor.’
Mae hyn yn (gymharol) newydd; dim ond yr ystyr ‘gwrthod’ a gawn ni yn y
19eg ganrif:
Beth os bydd y cathod yn ’cau dwad! (Daniel Owen, Hunangofiant Rhys
Lewis 278) (gol. 1885)
12
13. 3. ʼCau fel berf negyddol foddol
Mae ’cau yn dod yn rhan o sustem cytgord negyddol y Gymraeg:
Mae’r drws yn agor. cadarnhaol
Tydi’r drws ddim yn agor. ddim yn achosi cytgord negyddol
(mae → tydi)
Mae’r drws (yn) cau agor. dim cytgord negyddol
Tydi’r drws (yn) cau agor. cytgord negyddol ‘gwan’
Tydi’r drws ddim (yn) cau agor. cytgord negyddol ‘cryf’
‘Wnaiff y drws ddim agor.’
13
14. 3. ʼCau fel berf negyddol foddol
5 cwestiwn am cau yn yr holiadur:
(qu16) Q: Mae dy gar chdi’n cau cychwyn.
(qu17) Q: Dydy dy ffôn di cau gweithio.
(qu41) Q: Dydy ein teledu ni ddim yn cau gweithio.
(qu42) Q: Does neb yn cau dod allan efo fi.
(qu34) Q: Ond tydi o dal cau. (‘Mae e’n gwrthod o hyd.’)
14
15. 3. ʼCau fel berf negyddol foddol
15
cau gyda chytgord
cau ond dim cytgord
y ddau uchod
cau, amwys o ran cytgord
dim cau
Siaradwyr dros 50 oed
16. 3. ʼCau fel berf negyddol foddol
16
cau gyda chytgord
cau ond dim cytgord
y ddau uchod
cau, amwys o ran cytgord
dim cau
Siaradwyr o dan 50 oed
17. 3. ʼCau fel berf negyddol foddol
17
Siaradwyr dros 50 oed
neb … cau
neb … ddim isio ayyb.
18. 3. ʼCau fel berf negyddol foddol
18
Siaradwyr o dan 50 oed
neb … cau
neb … ddim isio ayyb.
19. 4. Treigladau mewn cwestiynau ‘pellter hir’
Beth ydych chi’n (ei) fwyta? (ei)+treiglad meddal = gwrthrych ‘eat it’
Beth ydych chi’n feddwl bod hyn yn (ei) olygu?
treiglad ar feddwl yn ‘copïo’ treiglad ar olygu
Pwy wyt ti’n feddwl wyt ti? berf mewn cwestiwn pellter hir yn treiglo
Roedd y treiglad hwn wedi datblygu erbyn hanner cynta’r 19eg ganrif:
be ydwch chi’n feddwl ddaw o honon ni hefo’r ffri trad yma? (William Rees
(Gwilym Hiraethog (ganwyd 1802), Llythyrau ’Rhen Ffarmwr 13.4–5,
1849)
Be mae’r dyn yn feddwl ydwi, tybad? (Beriah Gwynfe Evans (ganwyd
1848), Dafydd Dafis 6, 1898)
19
20. 4. Treigladau mewn cwestiynau ‘pellter hir’
20
Sgôr (allan o 9)
6+
2–5
1
0
Siaradwyr dros 50 oed
21. 4. Treigladau mewn cwestiynau ‘pellter hir’
21
Sgôr (allan o 9)
6+
2–5
1
0
Siaradwyr o dan 50 oed
22. 5. Dosbarthiad gramadegol chdi
• brawddegau ffocws (qu3) Chdi sy biau fe?
• ar ôl arddodiad digyfnewid (qu5) Pryd ca i siarad efo chdi?
• ar ôl arddodiad rhediadol (qu13) Ni’n aros amdana chdi o hyd.
(qu28) Ond hwyrach does gynno chdi mo’r
amser i joio fe.
(qu26) Ond mae ’na dal tri ar ôl i chdi.
• ar ôl berf gynorthwyol (qu22) Basa chdi’n fodlon i helpu ni…
(qu58) Mi fydda chdi’n mwynhau hynny…?
(qu59) Dyla chdi neud rhywbeth i'n helpu ni.
(qu18) Oedda chdi dal i ffwrdd…
(qu15) Beth yda chdi’n geisio ofyn?
22
23. 5. Dosbarthiad gramadegol chdi
• ‘goddrych’ i rhaid (qu9) Rhai’ chdi fod yn ofalus.
• fel rhagenw meddiannol (qu16) Mae dy gar chdi’n ’cau cychwyn.
• gwrthrych berfenw (qu7) Mi dwi’n dy weld chdi yno weithiau.
• ar ôl berf gynorthwyol wedi’i hepgor
(qu11) Pam chdi’n cerdded mor ffast?
23
24. 5. Dosbarthiad gramadegol chdi
• y datblygiad hanesyddol yw â thydi > â th’di > â chdi
• chdi (a thdi yn gynharach) yn ymddangos yng nghanol y 19eg ganrif,
ond dim ond ar ôl â, efo ac arddodiaid tebyg ac mewn brawddegau
ffocws:
“… Gallaf fi gyd-ddwyn pob baich hefo’ch di.” (Lewis William Lewis
(ganwyd 1831), Huw Huws, t. 5, 1860)
… ond os ch’di geiff y lle … (Lewis William Lewis (ganwyd 1831), Huw
Huws, t. 15, 1860)
24
25. 5. Chdi mewn brawddegau ffocws
25
t
Chdi sy biau fe?
you be.REL belong it
‘Is it you that it belongs to?’
Chdi sy bia fo?
26. 5. Chdi ar ôl efo (arddodiad digyfnewid)
26
efo chdi
with you
‘with you’
27. 5. Chdi ar ôl berfau cynorthwyol (oedd)
27
oedd ffurfiau llenyddol
oeddwn oeddem
oeddet oeddech
oedd oeddent
oedd (gogledd)
o’n i o’/o’dda ni
o’/o’dda ti o’/o’dda chi
o’dd o o’/o’dda nhw
28. 5. Chdi ar ôl berfau cynorthwyol (sa/buasai)
28
buasai (ffurfiau llenyddol)
buaswn buasem
buaset buasech
buasai buasent
(by)sa (gogledd)
(by)swn i (by)sa ni
(by)sa ti (by)sa chi
(by)sa (f)o (by)sa nhw
29. 5. Chdi ar ôl gan
29
gan (ffurfiau llenyddol)
gennyf gennym
gennyt gennych
ganddo ganddynt
ganddi
gan (gogledd)
gen i/gynno i gynnon ni
gen ti gynnoch chi
gynno fo gynnon nhw
gynni
30. 6. Diweddglo
• nifer o gyd-destunau gramadegol lle defnyddir chdi yn cynyddu, er nad
yw tiriogaeth chdi yn ehangu’n ddaeraryddol
• amrywiaeth yn ôl oedran yn eglur gyda ’cau, gyda siaradwyr iau yn
defnyddio cytgord negyddol dros ardal fwy na siaradwyr hŷn
• treigladau mewn cwestiynau pellter hir wedi datblygu yn y 19eg ganrif
ac yn diflannu nawr
• ydy cystrawennau newydd yn ymddangos mewn un man/person
penodol ac yn lledu o’r fan honno neu yn ymddangos mewn nifer o
lefydd yn annibynnol?
30
31. Llyfryddiaeth
Borsley, Robert D., Maggie Tallerman & David Willis. 2007. The syntax of
Welsh. Cambridge: Cambridge University Press.
Thomas, Alan. 1973. The linguistic geography of Wales: A contribution to
Welsh dialectology. Cardiff: University of Wales Press.
Thomas, Alan. 2000. Welsh dialect survey. Cardiff: University of Wales
Press.
31